St Peters Church, Fairwater, Cardiff
  • Home
    • St Peter, Our Patron
    • Visitors
    • How to find us
    • Our Mission
    • Our History
  • News & Events
    • Photos
  • This week
  • Worship
    • Spiritual Communion
    • Renewal
    • Sunday Homily
    • Llangasty Retreat House >
      • Llangasty Reflection
      • Retreats at Llangasty
    • Walsingham/Penrhys Pilgrimages
    • Prayers and Praises >
      • Prayer in times of need
      • Praise to you Creator King
    • Original Reflections
    • Sutton's Hymn Box
    • Taizé
    • Views around the diocese
    • Celtic Heritage Centre
  • Community Hall
    • Community Hall >
      • Hall Bookings
      • What's On
  • CYMRAEG
  • Where Faith Matters
  • Church Organisations
    • Who's Who
    • Coffee Mornings
    • Creative Writing Group
    • Eco Group
    • Mothers Union >
      • Mothers Union Worship and Prayer Resources
    • Fairtrade >
      • Make a difference with Fair Trade
    • Churches Together
    • Prisoners of Conscience
    • The Confraternity of the Blessed Sacrament
    • USPG
  • 6 Sacred Spaces
    • Chapter
    • Cell
    • Chapel
    • Refectory
    • Library
    • Cloister
  • Data Protection
  • Tudalennau Cymraeg
    • Gweddi am yr eglwys
    • Gwerddi Bersonol
  • Ministry to Children
  • Baptisms
  • Marriages
    • Marriage Blessings
  • Ministry to the Sick and Housebound
  • Funerals
  • House Blessings
  • Guide to Grants
  • Links to sites of interest

Gwneud Duw yn Gyson - Archesgob yn lansio prosiect Saith Gofod Sanctaidd

Picture
Yr Archesgob Barry yn y Senedd
 ‘Gwneud Duw yn Gyson' oedd neges Dr Barry Morgan, Archesgob Cymru, wrth iddo lansio prosiect newydd cyffrous sy'n anelu i gryfhau cysylltiadau rhwng yr eglwys a'r gymuned.

Ymunodd Jane Hutt AC gyda'r Archesgob ar gyfer datgelu prosiect Saith Gofod Sanctaidd i glerigwyr a phlwyfolion yn y Senedd gyda chyhoeddi DVD a llyfryn newydd yn cynnwys enghreifftiau o ofodau sanctaidd a manylion y cynllun.

Wrth siarad yn y lansiad, dywedodd yr Archesgob "Saith Gofod Sanctaidd yw ein gweledigaeth ar gyfer yr esgobaeth a phobl mewn plwyfi er mwyn helpu pawb ohonom i ymgysylltu o fewn ein cymunedau.
"I mi medrir crynhoi Saith Gofod Sanctaidd mewn tri gair - dyfnhau, tyfu a chysylltu neu i ddefnyddio cofair - Gwneud Duw yn Gyson.

"Nid dim ond yr efengyl a'r gwerthu caled yw'r ffordd i ddenu pobl i'r eglwys. Os gall pobl weld fod yr efengyl yn gwneud gwahaniaeth i'r ffordd yr ydych chi a finnau'n byw ein bywydau ac yn ein gwneud yn fwy gofalgar nag y byddem fel arall efallai, yna ymddengys i mi y caiff pobl eu denu'n fwy at y ffydd Gristnogol.

"Pan wyf yn sôn am 'Wneud Duw yn Gyson' yna rwy'n siarad am bawb ohonom, clerigwyr a lleygwyr fel ei gilydd - i ni gyd ei wneud gyda'n gilydd."

Dywedodd Jane Hutt ei bod yn addas fod Saith Gofod Sanctaidd yn cael ei lansio yn y Senedd gan mai dyma adeilad Cynulliad Cenedlaethol Cymru - ar gyfer Cymru gyfan.

"Gwelsom enghraifft bwysig iawn o'r ffordd y gall yr eglwys ymgysylltu yn y gymuned fel canlyniad i'r toriad i'r gwasanaeth llyfrgell symudol ym Mro Morgannwg ychydig flynyddoedd yn ôl," meddai Jane Hutt.

"Fe wnaeth yr eglwys ddatblygu llyfrgell gymunedol wirfoddol yn neuadd yr eglwys yn Saint-y-brid a gaiff ei redeg gan bobl leol mewn cysylltiad gyda Gwasanaethau Llyfrgelloedd y Fro. Mae'n gweithio'n dda iawn ac yn cysylltu gyda'r gymuned."

Dywedodd fod llawer o enghreifftiau tebyg o'r eglwys yn ymestyn allan i'r gymuned.

Ysbrydolwyd Saith Gofod Sanctaidd gan y ffordd fynachaidd o fyw sy'n canoli ar saith elfen allweddol cell, clwysty, cabidwl, capel eglwys, ffreutur a llyfrgell ac er y byddent yn cael enwau ychydig yn wahanol heddiw - mae ynglŷn â'r ffordd y mae'n dal i fod eu hangen ar gyfer cymuned i ffynnu.

Mae clybiau brecwast i deuluoedd, cerddorfa gymunedol, gwasanaeth y geni yn cynnwys popwyr parti ac eira ffug a stondin briodas a drefnwyd gan glerigwyr a lletywyr mewn ffair briodasau i gyd yn enghreifftiau eraill o ofodau sanctaidd.

Lansiwyd Saith Gofod Sanctaidd yn y Senedd ddydd Sadwrn, 18 Mai.

I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â'r Parch Ganon Richard Lowndes, ar 01656 868868, e-bost [email protected]
 
Entered By Anna Morrell - 03.06.13


Anna Morrell, Archbishop’s Media Officer
Church in Wales
39 Cathedral Rd
Cardiff CF11 9XFEmail Address: [email protected]
Telephone: Work: 02920 348208 Mobile: 07919 158794


Powered by Create your own unique website with customizable templates.