St Peters Church, Fairwater, Cardiff
  • Home
    • St Peter, Our Patron
    • Visitors
    • How to find us
    • Our Mission
    • Our History
  • News & Events
    • Photos
  • This week
  • Worship
    • Spiritual Communion
    • Renewal
    • Sunday Homily
    • Llangasty Retreat House >
      • Llangasty Reflection
      • Retreats at Llangasty
    • Walsingham/Penrhys Pilgrimages
    • Prayers and Praises >
      • Prayer in times of need
      • Praise to you Creator King
    • Original Reflections
    • Sutton's Hymn Box
    • Taizé
    • Views around the diocese
    • Celtic Heritage Centre
  • Community Hall
    • Community Hall >
      • Hall Bookings Calendar
      • What's On
  • CYMRAEG
  • Where Faith Matters
  • Church Organisations
    • Who's Who
    • Coffee Mornings
    • Creative Writing Group
    • Eco Group
    • Mothers Union >
      • Mothers Union Worship and Prayer Resources
    • Fairtrade >
      • Make a difference with Fair Trade
    • Churches Together
    • Prisoners of Conscience
    • The Confraternity of the Blessed Sacrament
    • USPG
  • 6 Sacred Spaces
    • Chapter
    • Cell
    • Chapel
    • Refectory
    • Library
    • Cloister
  • Data Protection
  • Tudalennau Cymraeg
    • Gweddi am yr eglwys
    • Gwerddi Bersonol
  • Ministry to Children
  • Baptisms
  • Marriages
    • Marriage Blessings
  • Ministry to the Sick and Housebound
  • Funerals
  • House Blessings
  • Guide to Grants
  • Links to sites of interest
Gardd yn ennill grant o £93,000 grant i leihau effaith y pandemig ar iechyd meddwl
Picture
Cynorthwywyr gardd yn archwilio'r diliau yn y cychod gwenyn;

Caiff pobl sy’n dioddef effeithiau niweidiol ynysigrwydd cymdeithasol oherwydd pandemig Covid 19 eu hannog i ymuno â phrosiect gardd gymunedol, diolch i grant o £93,000 gan y Loteri.
Mae Gardd Gymunedol Sant Pedr, erw o dir yr eglwys ym maestref y Tyllgoed yng Nghaerdydd, yn creu canolfan therapiwtig i gefnogi pobl sy’n dioddef o ynysigrwydd neu allgau cymdeithasol yn dilyn y pandemig. Nod y prosiect “presgripsiynu cymdeithasol” yw darparu amgylchedd gofalgar a chefnogol lle gall pobl fwynhau manteision garddio a gweithgareddau cymdeithasol.
Bydd y grant o Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn talu am ddau aelod o staff rhan-amser ar gyfer y prosiect dros y tair blynedd nesaf.
Cafwyd y syniad am y prosiect pan welodd y tîm rheoli sut yr oedd cau’r ardd a’r neuadd gyfagos yn ystod y cyfnod clo wedi cael effaith wael ar bawb oedd wedi manteisio ar weithgaredd therapiwtig yn yr ardd a’r amrywiaeth o ddigwyddiadau cymdeithasol yn y neuadd. Wrth ymchwilio unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol, fe wnaethant ddarganfod fod ganddynt risgiau tebyg i ysmygu sigaréts ar farwoldeb.
“Mae’n amlwg y cafodd cyfyngiadau’r pandemig effaith negyddol ar iechyd meddwl a chorfforol llawer o bobl,” medai’r Tad Colin Sutton, ficer Eglwys Sant Pedr a chadeirydd tîm rheoli’r Neuadd Gymunedol a’r Ardd.
“Mae’r grant yn golygu y gallwn yn awr feithrin capasiti fel y gall ein prosiect ehangu cyfleoedd i liniaru ynysigrwydd cymdeithasol a’r effeithiau negyddol ar iechyd meddwl. Bydd yn galluogi ein gwirfoddolwyr i roi adnoddau Neuadd Gymunedol a Gardd Sant Pedr ar unwaith eto a’u hymestyn i fynd i’r afael ag effaith cymdeithasol negyddol y pandemig.”

Bydd y prosiect yn adeiladu ar y gwaith cymunedol sydd eisoes yn mynd rhagddo yn yr ardd, a gafodd ei thrawsnewid dros y 12 mlynedd ddiwethaf o ddarn o dir gwastraff o amgylch Eglwys Sant Pedr i fod yn hafan werdd ar gyfer yr holl gymuned. Enillodd nifer o wobrau amgylcheddol, yn cynnwys y Faner Werdd a dyfarniad Eglwys Eco Arian gan sefydliad A Rocha. Mae’n cynnwys llyn bychan, cychod gwenyn, lleiniau llysiau a gardd dawel a hefyd berllan dreftadaeth Gymreig gyda choeden eirin a blannwyd gan EHB Y Dywysoges Frenhinol. Mae byddin o wirfoddolwyr yn ogystal â phlant o Ysgol Gyfun Tyllgoed gerllaw, pobl gydag anableddau dysgu a throseddwyr ifanc a chyn garcharorion yn gofalu am yr ardd.

“Gobeithiwn y bydd y prosiect hwn yn cael mwy o bobl i’r ardd i’w mwynhau. Rydym eisiau iddi fod ar gael ar gyfer rhai o’r bobl fwyaf ynysig a bregus yn ein cymuned, gan ddangos iddynt eu bod yn cyfri ac y gallant gyfrannu a chael ymdeimlad o gyflawni. Rydym eisoes wedi gweld pobl yn symud o fod yn hollol ynysig i gymryd rhan lawn yn y gymdeithas a gwyddom y bydd llawer mwy o bobl y bydd angen iddynt wneud y daith hon yn dilyn y pandemig.

I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â: 
        http://www.stpeterschurchfairwater.org.uk/photos.html


Powered by Create your own unique website with customizable templates.