Pedr
Pedr y Cyffeswr,
bydded inni ddweud gyda thydi
Iesu ti yw’r Crist Mab y Duw byw.
Pedr y Pysgotwr,
bydded inni hefyd gweithio er mwyn y deyrnas
a chael rhwydau’n llawn bywyd.
Pedr y Graig,
bydded inni edrych arnat ti
am anogaeth ac arweiniad.
Pedr yr Arweinydd,
bydded inni gael arweinwyr ffyddlon
allwn ymfalchïo ynddynt wrth inni eu canlyn.
Pedr y Byrbwyll,
bydded inni wybod sut i wynebu’n ffaeleddau.
Pedr y Bugail,
bydded inni adnabod dy gonsýrn cyson
a dy ofal amdanom ni'r ddiadell .
Pedr yr Iachawr,
bydded inni gynnig mwy nag arian ac aur
- gras iachaol Crist.
Pedr y Merthyr,
bydded inni gofleidio aberth
ac nid ofni pan deimlwn yn gaeth
ac o dan fygythiad gan rymoedd drygionus.
Pedr y Gwas cariadus,
bydded inni adnabod sut y gall Crist ein hadfer a’n hiachau ni.
Pedr ein Mabsant,
rhown foliant i Dduw am dy fywyd
ac am dy dystiolaeth sy’n ein hysbrydoli ni,
oherwydd ti yw Apostol Crist –
a ninnau yn ymuno â thydi i gyhoeddi am byth mai:
Iesu yw’r Crist – yr eneiniog
Mab y Duw Byw.