Gweddi bersonol
O Dduw sanctaidd a grasol,
rwyt ti wedi fy nhynnu trwy ddyfroedd bedydd i fywyd newydd gyda Christ, dy Fab. Wedi fy ngrymuso gan dy Ysbryd, rho i mi ddewrder a chrydfer pan demtir fi i grwydo oddi wrth dy ochr; rhoi i mi gariad a chysur pan frwydraf i gyfaddef fod arnaf angen am faddeuant, rho i mi ddoethineb a deall pan fethaf â gwir ddilyn dy alwad. Ar ddechrau’r Grawys hwn, gweddïaf y byddaf yn ystod yr wythnosau hyn yn clywed dy lef ddistaw yn siarad â’m calon, y byddaf yn myfyrio ar fy ffydd a’m gweinidogaeth, y byddaf yn ceisio ffyrdd newydd o wasanaethu yn dy enw; trwy Iesu Grist, a fu farw mewn cariad ac a gyfododd drachefn. Amen |
Dduw y Greadigaeth oll,
o ddyfnderoedd y ddaear mae harddwch yn egino, myrdd o liwiau, môr o fywyd; o hedyn mor fach fe dyf cymaint o botensial i ddod â llawenydd i’r byd. O ddyfnderoedd y groth rwyt ti’n fy ngalw i allan, mydd o liwiau yn paentio’r ‘pwy ydw i’; rwyt ti wedi fy nilladu â chorff sydd yn unigryw i mi, ac yn gweld mwy o ryfeddodau sydd yn bodoli y tu mewn i mi nag y gall fy llygaid i eu derbyn. Rwyt ti’n gweld fy nghryfder a’m breuder, oherwydd oddi wrthyt ti, ni fedraf guddio unrhyw beth. Fe weli hedyn fy ffydd yn tyfu, a’m hamheuon a’m hargyhoeddiadau. Rwy ti’n f’adnabod yn well na rydw i’n f’adnabod fy hun. Helpa fi i ymddiried ynot ti, yn dy bresenoldeb a’th gariad sy’n yn meithrin fy mywyd, yn ffurfio fy ngwir gymeriad, a’m galw i’th ddilyn di yn awr ac am byth. Amen. |