Ein Gardd Gymunedol
Creu ar gynnydd, Cynnydd mewn Creu
Gardd gudd mewn maestref ydym ni ac mae gennym gyfuniad anghyffredin o flodau mewn borderi, llysiau mewn rhesi esgynedig a gwarchodfa natur, i gyd wedi’u creu gan wirfoddolwyr. Mae yma bwll mawr naturiol wedi’i amgylchynu gan blanhigion gwyllt, coed afalau o dras Cymreig, border dwbl hir o berlysiau, a dôl ac ynddi flodau gwylltion i ddenu adar, gwenyn a phili pala.
Ein gweledigaeth
Mae’r gerddi yn fannau diogel ac mae ynddynt groeso i bawb. Does dim tâl mynediad i’r gerddi na thâl am gymryd rhan yn y gweithgareddau. Mae ein gwirfoddolwyr wedi sefydlu’r gerddi fel llecynnau i geisio iachâd, tyfiant a derbyniad.
Mae parch y naill tuag at y llall a hefyd parch tuag at yr amgylchedd yn allweddol. Dydyn ni ddim yn gwahaniaethu rhwng gwahanol genedligrwydd, galluoedd, crefyddau na rhyw.
Beth yw ‘Gardd Dawel’?
Mae’r ardd dawel yn cynnig lle i ni feddwl yn ddwys, ymlacio a myfyrio. Mae’r byd o’n cwmpas mor brysur a swnllyd ac weithiau mae’n braf cael dianc. Mae modd gwireddu hyn yn yr ardd dawel.
Mae’r Mudiad Gardd Dawel yn hyrwyddo mynediad i ofod allanol ar gyfer gweddi, myfyrdod a gorffwys mewn amrywiaeth o leoliadau, fel cartrefi preifat, eglwysi, ysgolion ac ysbytai, ac mae’n creu cyfleoedd i bobl brofi tawelwch, llonyddwch ac arferion myfyrgar.
Yma yn Sant Pedr mae ein gardd dawel, sy’n swatio ynghudd o weddill y gerddi, wedi ei chysegru i Sant Ffransis, nawdd sant anifeiliaid a natur.
Mae’r ardd yn agored i bobl o bob ffydd neu bobl sydd heb ffydd fel lle i orffwys yng nghanol byd natur.