Yr Eglwys yn mabwysiadu bardd i gefnogi Sefydliad H’mm
Mae’r Eglwys yng Nghymru yn”mabwysiadu bardd” fel rhan o gynllun i godi proffil barddoniaeth ym mywyd Cymru.
Bydd y ficer a’r bardd, Y Parch Peter Walker, yn cael ei fabwysiadu’n ffurfiol gan yr Eglwys fel rhan o Sefydliad Barddoniaeth H’mm – cynllun i ddod â mwy o farddoniaeth i fywyd benunyddiol pobl.
Caiff ei fabwysiadu yng Nghorff Llywodraethu’r Eglwys sy’n cwrdd ym Mhrifysgol Cymru, Y Drindod Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan, ar 11-12 Medi.
Mae Peter yn ficer tîm yng Nghyffordd Llandudno. Mae’r Lolfa wedi cyhoeddi tri chasgliad o’i gerddi byr – Penmon Point, Old Men in Jeans a Listening to Zappa. Bydd yn darllen dwy gerdd yn y lansiad, un o’i gasgliad newydd, Listening to Zappa, a gyhoeddwyd yn yr haf.
Yn wreiddiol o ganolbarth Lloegr, bu Peter yn addysgu ieithoedd modern cyn hyfforddi i ddod yn offeiriad. Dywedodd, “Fel bardd mabwysiedig yr Eglwys, gobeithiaf gynnig persbectif ar rai o’r materion sy’n wynebu’r eglwys – er enghraifft sut yr ydym yn ymgysylltu gyda’r byd sydd i raddau helaeth yn un ôl-Gristnogol a seciwlar, a hefyd sut y gallem ddefnyddio’r ysbrydolrwydd eang a welwn yn aml o’n hamgylch.
“Os yw diwinyddiaeth ynglŷn â cheisio dod i ddirnad yr annirnadwy, yna mae barddoniaeth yn helpu i’n gwthio tuag y nod honno gyda’i awgrymiadau a chysgodion, ei arlliwio, a’r ffordd y gall fynegi ein syniadau mewn ffyrdd weithiau’n annisgwyl. Mae barddoniaeth yn ganolog i litwrgi, a gall fod yn greiddiol i’r ffordd y myfyriwn ar y dwyfol.
“Gobeithio ei fod yn helpu i adlewyrchu ar ein profiadau, efallai’n rhoi ein greddfau a’n teimladau cudd mewn geiriau.”
Enwebwyd Peter, sy’n gwasanaethu Buddoliaeth Reithorol Rhos-Cystennin yn Esgobaeth Llanelwy – i fod yn fardd mabwysiedig yr Eglwys gan Gregory Cameron, Esgob Llanelwy. Dywedodd, “Bu gan farddoniaeth bob amser ffordd o annog pobl i edrych o dan wyneb bywyd i realaeth ddyfnach, ac felly bu’n rhan ganolog o’n haddoliad a’n bywyd. Bu’r Eglwys yng Nghymru bob amser yn ddigon ffodus i fod â gwythïen gyfoethog o feirdd talentog sy’n mynegi eu ffydd mewn emynau a gweddïau – yn cynnwys, wrth gwrs, un o ysgrifenwyr enwocaf Cymru, RS Thomas, a fu’n ficer yng Ngogledd Cymru.
“Rwy’n falch iawn y cytunodd Peter gael ei fabwysiadu’n ffurfiol gan yr Eglwys fel rhan o Sefydliad H’mm ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr iawn at ei ddarlleniadau – a chyfansoddiadau posibl – dros y flwyddyn. Mae gan ei gerddi ffordd o’n herio i ailystyried y byd drwy lygaid ffydd, ac i roi sylwadau ingol am realaeth bywyd yr Eglwys heddiw. Mae’n fardd gwerth gwrando arno.
“Mae Sefydliad H’mm yn gynllun gwerthfawr i’w gefnogi gan ei fod yn dod â barddoniaeth i fywydau bob dydd, gwneud i ni weld y byd ychydig yn wahanol a’n hatgoffa y dylai ein beirdd gael eu trysori am yr treiddgarwch a roddant i ni.
“Byddwn yn lansio ein bardd mabwysiedig yn syth ar ôl dadl y Corff Llywodraethu – a fydd yn sicr yn un wresog – ar p’un ai i ordeinio menywod fel esgobion felly rwy’n credu y bydd pob aelod yn barod i gael amser i ystyried ac efallai ychydig o ysgafnder!”
Mae’r gŵr busnes Ali Anwar a sefydlodd Sefydliad H’mm yn hoff iawn o farddoniaeth ei hunan, a dywedodd,
“Rwy’n hynod falch fod yr Eglwys yng Nghymru yn cymryd rhan yn y cynllun ‘Mabwysiadu Bardd’. Rwy’n croesawu’r gefnogaeth barhaus i Sefydliad H’mm, yn neilltuol gan Dr Barry Morgan, Archesgob Cymru.
“Pan wnaethom greu Sefydliad H’mm i annog busnesau a sefydliadau eraill i ‘fabwysiadu bardd’ er mwyn arddangos barddoniaeth y gweithle ac ym mywyd Cymru, cawsom ein hysbrydoli gan draddodiad beirdd teulu Cymru’r oesoedd canol a chyfnod y Dadeni.
“Dylai adeiladu cysylltiadau rhwng y gymuned fusnes a’r gymuned gelfyddydol fod yn brofiad creadigol i’r ddau, yn arbennig mewn gwlad sydd â pharch dwfn a greddfol at farddoniaeth. Mae Sefydliad H’mm yn ffynhonnell newydd o incwm ar gyfer beirdd a gobeithio yn ffynhonnell ysbrydoliaeth ar gyfer pobl mewn busnes.
“Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda’r Parch Peter Walker dros yr ychydig fisoedd nesaf i godi proffil beirdd a barddoniaeth yng Nghymru yn arbennig yn ystod dathliadau canmlwyddiant geni R S Thomas.
Caiff y Parch Peter Walker ei fabwysiadu’n swyddogol fel bardd Sefydliad H’mm yr Eglwys yng Nghymru ar 12 Medi ym Mhrifysgol Cymru, Y Drindod Dewi Sant, tuag amser cinio.
For information please see -
Anna Morrell
Church in Wales
39 Cathedral Rd
Cardiff
CF11 9XF
Phone (landline): 029 2034 8208
Mobile phone: 07919 158794
[email protected]